Ysgolion, Colegau a Darparwyr Hyfforddiant

Cyflwyno Cymwysterau RSL yng Nghymru

Mae gan Gymwysterau Galwedigaethol RSL mewn cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio hanes profedig o gynyddu’r niferoedd sy’n dewis meysydd pwnc y Celfyddydau Creadigol, ac maent yn addas iawn i amrywiaeth o ddysgwyr mewn ystod o wahanol leoliadau.

Ar gyfer pwy mae Cymwysterau Galwedigaethol?

Wrth astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol mewn pynciau creadigol, credwn y dylai’r prif bwyslais fod ar gymhwyso a datblygu creadigrwydd. Mae hyn yn galluogi’r dysgwr i gael profiad sy’n berthnasol i’r byd gwaith wrth astudio ar gyfer cymhwyster sydd â’r un trylwyredd a chydnabyddiaeth â chymwysterau eraill mewn ysgolion, colegau ac ymhlith darparwyr hyfforddiant.

Why-VQ-thumb

Cymwysterau sydd ar gael

Porwch drwy’r tabiau i weld ein cyfresi cymwysterau yn eich maes pwnc dewisol…

Tystysgrifau Alwedigaethol Addysg Uwchradd

 

Mae Tystysgrifau Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) yn fath cwbl newydd o gymhwyster Lefel 1/Lefel 2 sy’n gysylltiedig â gwaith ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru.

Mae TAAU Lefel 1/Lefel 2 RSL yn y Celfyddydau Perfformio wedi’i gynllunio i roi sgiliau ymarferol yn y celfyddydau perfformio i ddysgwyr, ynghyd â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n sail i berfformiad cadarn. Mae’n paratoi dysgwyr i symud ymlaen i astudio ôl-16, dysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth. Mae’r cymhwyster hefyd yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr y gallant eu defnyddio mewn addysg bellach ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

VQ-Headers-1200x630-013 1

TAAU RSL yn Gryno

PAA-ofqual-icon-gradient

Cymeradwy ar gyfer Cymru

Cymhwyster wedi’i lunio’n benodol i Gymru ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed

PAA-streetdance-icon-gradient

Addysgu am y tro cyntaf: Medi 2027

Digon o amser i ddod i ddeall sut i gyflwyno ein cymwysterau TAAU a sicrhau llwyddiant

PAA-setup-icon-gradient

Lefel 1 a Lefel 2

Cymhwyster cyfunol Lefel 1 / Lefel 2

PAA-industry-icon-gradient

Cymhwyster sylweddol o faint strwythuredig

140 o oriau dysgu dan arweiniad / cyfanswm amser cymhwyso o 140 awr

PAA-repertoire-icon-gradient

Pedair disgyblaeth

Actio, Dawns, Cerddoriaeth a Theatr Gerdd

PAA-group-icon-gradient

Cyflwyno’n ddwyieithog

Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaniateir cwblhau’r cymhwyster drwy gyfuniad o’r ddwy iaith

Cymwysterau Galwedigaethol

Ymarferwyr Cerdd | Lefel 1–3

Bydd cymhwyster Ymarferwyr Cerdd yn rhoi i’ch dysgwyr yr wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn cerddoriaeth. Lluniwch y cymhwyster mwyaf perthnasol i’r diwydiant sydd ar y farchnad, sy’n adlewyrchu arloesedd yn y diwydiant cerddoriaeth presennol.

Celfyddydau Creadigol a Pherfformio | Lefel 1–3

Gydag unedau ar gyfer dawnswyr, actorion, perfformwyr theatr gerdd a thechnegwyr, mae’r cymwysterau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau yn niwydiant y celfyddydau perfformio, gan alluogi dysgwyr i roi eu talent wrth galon eu dysgu.

Cymwysterau Prosiect Personol

Rhowch y rhyddid i ddysgwyr archwilio pwnc sy’n bwysig iddynt wrth ddatblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith. Bydd cymwysterau Prosiect Personol RSL Awards, sydd wedi’u llunio’n benodol i Gymru ac yn cael eu lansio ym mis Medi 2027, ar gael o Lefel Mynediad i Lefel 2 a gellir eu cwblhau yn Gymraeg, yn Saesneg neu drwy gyfuniad o’r ddwy iaith.

Prosiect a gaiff ei lunio gan y dysgwr

Mae dysgwyr yn dewis eu pwnc eu hunain, yn gosod nodau ac yn creu prosiect personol sy’n adlewyrchu eu diddordebau, eu huchelgeisiau a’u creadigrwydd.

Pedair sgil ar gyfer y dyfodol

Mae pob prosiect yn datblygu sgiliau cynllunio a threfnu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, creadigrwydd ac arloesi, ac effeithiolrwydd personol.

Asesiad hyblyg a chynhwysol

Mae dysgwyr yn cofnodi eu cynnydd mewn portffolio digidol a gallant gyflwyno tystiolaeth drwy waith ysgrifenedig, delweddau, sain, fideo, cyflwyniadau neu ddeilliannau ymarferol. Mae marcio ar sail lefelau yn gwobrwyo cyflawniad ar draws y gwaith a gwblhawyd.

Prosiect Personol Lefel Mynediad

Cam cyntaf â chymorth i ddysgu seiliedig ar brosiect

Mae dysgwyr yn dechrau datblygu’r sgiliau i ddewis pwnc perthnasol, gosod nodau cyraeddadwy, cynllunio eu gwaith ac archwilio gwybodaeth o wahanol ffynonellau. Maent yn creu portffolio digidol ac yn myfyrio ar lwyddiant eu prosiect, gyda chanllawiau a chymorth ar gael lle bo angen.

  • 60 awr o ddysgu dan arweiniad
  • Un uned a asesir yn fewnol ac a gymedrolir yn allanol
  • Cynllunio, ymchwil, creadigrwydd a myfyrio

Prosiect Personol Lefel 1

Magwch hyder ac ewch â syniadau ymhellach

Mae dysgwyr yn datblygu prosiect personol ar bwnc o’u dewis, gan ddefnyddio ymchwil, barn ac enghreifftiau i archwilio syniadau a datrys problemau. Maent yn dysgu ymateb i adborth, addasu eu cynlluniau ac adolygu eu cryfderau a’r meysydd i’w gwella.

  • 60 awr o ddysgu dan arweiniad
  • Un uned a asesir yn fewnol ac a gymedrolir yn allanol
  • Mwy o ddyfnder mewn cynllunio, datrys problemau a meddwl creadigol

Prosiect Personol Lefel 2

Datblygwch annibyniaeth, dyfnder a meddwl arloesol

Mae dysgwyr yn cymryd mwy o berchnogaeth dros brosiect wedi’i fireinio, gan reoli adnoddau, ymateb i adborth parhaus ac ymchwilio at ddibenion penodol. Maent yn ystyried gwahanol safbwyntiau, yn cyfiawnhau atebion ac yn myfyrio ar sut y gall eu profiadau lywio penderfyniadau ac ymddygiadau yn y dyfodol.

  • 60 awr o ddysgu dan arweiniad
  • Un uned a asesir yn fewnol ac a gymedrolir yn allanol
  • Ymchwil fwy annibynnol, gwneud penderfyniadau rhesymegol a gwerthuso

Pam RSL Awards?

VQ Vocational Qualifications Choices

Dull Cyflwyno Hyblyg

Ymarferol, perthnasol i’r diwydiant a hyblyg. Mae’r hyblygrwydd o ran cyflwyno wedi’i gynllunio i’ch galluogi i lunio’r cymhwyster perffaith i chi a’ch dysgwyr, gan gadw strwythur drwy unedau craidd ac unedau dewisol dethol.

VQ Vocational Qualifications Repertoire

Sgiliau Ymarferol

Mae’r asesu’n canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a/neu dechnegol, a gwybodaeth sy’n berthnasol i rolau yn niwydiant y cymhwyster perthnasol. Yn gyffredinol, nid oes unrhyw weithiau gosodedig na chyfyngiadau ar y repertoire, sy’n caniatáu i’ch dysgwyr astudio’r hyn sydd o ddiddordeb gwirioneddol iddynt ac yn arwain at fwy o ymgysylltiad.

VQ Vocational Qualifications Group Support

Cymorth Personol

Mae pob canolfan gyflwyno yn cael cymorth o’r broses gymeradwyo hyd at ardystio, gyda chyswllt penodol ar gael i roi arweiniad, ateb cwestiynau a helpu i gadw’r prosesau i fynd yn hwylus.

Pwyntiau UCAS

Mae Cymwysterau Galwedigaethol RSL Awards yn helpu dysgwyr i symud ymlaen i Addysg Uwch. Mae gennym ystod eang o gymwysterau Lefel 3 sy’n ennill Pwyntiau UCAS. Cliciwch y botwm isod i weld nifer y Pwyntiau UCAS a ddyrennir yn ôl maint a chyfres y cymhwyster.

VQ Vocational Qualifications Academic
VQ Vocational Qualifications Accessibility

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw

Anfonwch neges atom a bydd un o’n harbenigwyr yn cysylltu â chi!

    Which qualifications are you interested in?

    Personal Details

    How did you hear about us?

    Your message (optional)

    This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

    Digital Files

    For the RSL shop we’ve chosen the most widely used media for ease of use and flexibility when transferring across different devices.

    Every complete digital book (e.g. Electric Guitar Grade 1) includes:

    • PDF sheet music
    • MP3 audio
    • Supporting tests

    Download Limits

    We know downloading digital content can be frustrating at times which is why we’ve given you multiple chances to download your audio and sheet music.

    Each complete digital book purchased includes:

    • 5 audio downloads
    • 3 sheet music downloadsThis means if you misplace your content, or if your download times-out, you’ll still have plenty of attempts to download your content.

    Purchase Options

    1. Hard Copy

    The hard copy or paperback version can be purchased from our shop for shipping to the UK. Orders for shipping to other countries can be placed via www.musicroom.com. The paperback version includes everything you need for your exam in one essential book, including sheet music, a code for access to MP3 audio and complete supporting tests.

    2. Digital Download (where applicable)

    Digital downloads is the most popular way of purchasing and downloading a Rockschool book, track or supporting test. Rockschool digital book downloads come complete with PDF sheet music, MP3 audio and supporting tests for instant accessibility on all your favourite devices.

    Note: Digital sheet music is stamped with your email address and order number.

    3. Digital Download + E-Book Access

    The RSL e-books, utilising Learning Platform technology powered by MatchMySound, are the ultimate practise tool, giving you the ability to master your instrument like never before.

    Choose which region you would like to view products for

    Our products are country specific, please select which country you would like to shop for.

    View Cart